02/08/2012

Beth yw dysgwr?

Ysgrifennwyd y nonsens canlynol ar y 30ain o Fehefin.  Dw i newydd ddod rownd i'w gyhoeddi fo!

Yn y rhai diwrnodau ers y cyhoeddiad bod "dysgwraig" wedi cael ei henwebu'n Archdderwydd, dw i wedi bod yn meddwl am ddiffiniad union y gair "dysgwr".

Un peth sydd wastad wedi taro fi yw'r ffordd bod y gair fel arfer yn golygu "dysgwr o'r iaith Gymraeg", heb angen geiriau eraill. Hyd y gwn i, does neb yn Ffrainc (er enghraifft) yn sôn am 'apprenants' yn yr un modd, heblaw os ydi'r cyd-destun eisoes wedi sefydlu mai iaith yw'r pwnc dan drafodaeth. Mae hyd yn oed teitl cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyfieithu fel "Welsh Learner of the Year", er bod y cyd-destun yn ddigon amlwg yno. Ond yn y Gymraeg, heb unrhyw gyd-destun penodol, cymerir yr ystyr ieithyddol yn ganiataol. (Mae fel yr arfer o gyfeirio at y Gymraeg fel "yr iaith", peth sy'n taro'n od wedi'i gyfieithu'n uniongyrchol!)

Nawr dw i ddim yn honni bod hyn yn sylweddoliad chwyldroadol - mae pawb sy'n siarad mwy nag un iaith yn gwybod nad yw geiriau ieithoedd gwahanol yn mapio'n un-i-un ar eu gilydd. Ond mae'n ddiddorol iawn i mi bod dysgwyr i'w gweld yn ddigon pwysig, niferus a blaengar yn y byd Cymraeg bod y defnydd hwn wedi dod mor gyffredin.

Yr ail beth i ystyried yw, beth yn union ydi ystyr y gair ei hun?  "Wel, rhywun sy'n dysgu Cymraeg" meddwch chi'n ddigon rhesymol.  Ond lle mae tynnu'r llinell rhwng dysgwr a siaradwr?  Ydi rhywun a ddechreuodd fel oedolyn yn 'ddysgwr' am oes?  Hefyd, sut mae diffinio 'fel oedolyn'?  Ydach chi'n 'ddysgwr' os wnaethoch chi ddechrau yn 16 oed?  Beth am 12?  Neu 8?

I osgoi'r cymhlethdodau hynny, mae rhai pobl yn hyrwyddo'r term 'siaradwyr ail iaith' yn hytrach na 'dysgwyr'.  Ond mae problemau yno hefyd: sut mae diffinio 'ail'?  Beth am, er enghraifft, rhywun dwyieithog-ers-eu-plentyndod-cynnar Saesneg/Ffrangeg sy'n dysgu Cymraeg fel oedolyn?  Beth am bobl fel fi sydd wedi dysgu dwy iaith fel oedolyn - ai 'fy nhrydedd iaith' yw'r Gymraeg, neu oes gen i 'ddwy ail iaith' neu beth?  Ydi o'n mynd mewn trefn cronolegol, neu oes modd i'ch ail a'ch trydedd ieithoedd newid lle, yn dilyn newidiadau yn eich gallu i'w siarad nhw?

Ffordd boblogaidd arall o gyfeirio at ddysgwr profiadol yw dweud bod nhw "wedi dysgu", ond mae ofn arna' i ei defnyddio - dw i'n sicr ddim eisiau rhoi'r argraff 'mod i'n ystyried fy Nghymraeg yn "waith gorffenedig"!  Mae dysgu yn broses barhaol, ac wedi'r cwbl, dydw i ddim wedi "gorffen" dysgu Saesneg chwaith, nac ydw?

Ta beth - does gen i ddim ateb i'r cwestiynau uchod, heblaw i ddweud bod 'na ddim angen ffeindio term addas i'n disgrifio ni, y dysgwyr-sy-wedi-dod-yn-siaradwyr, oherwydd mai siaradwyr ydyn ni.  A dylai hynny fod yn ddigon mewn unrhyw gymuned ieithyddol - yn enwedig un "lleiafrifol".

Cwpl o ddiwrnodau ar ôl sgwennu'r uchod, wnes i ddal lan ar fy Google Reader a gweld sylwadau Carl, a dw i'n hoff iawn o'i syniad o ddefnyddio'r gair 'mabwysiadwr'. Felly mae gen i un famiaith a dwy iaith fabwysiedig. Gwych! :)

Hunaniaeth ac iaith

Tua deufis yn ôl, pan oedd y fflam Olympaidd ar ei ffordd trwy Gymru, a phenwythnos hir y Jiwbilî jyst rownd y gornel, roeddwn i'n mynd trwy gyfnod eithaf wyneb-i-waered yn fy mywyd. O ganlyniad, llwyddais rhywsut i osgoi bron yr holl heip yn y byd go iawn. Ond roedd y radio yn y car yn dal wedi tiwnio mewn i Radio Cymru fel arfer, a bob hyn a hyn, daliais i fyny efo Twitter ar fy ffôn (ac mae rhan fwya'r pobl dw i'n dilyn yn drydarwyr Cymraeg). Felly, er i mi fyw bywyd eithaf ynysig mewn maestref Seisnig ar y pryd, trwy lygaid Cymraeg yn unig wnes i ddilyn yr holl beth. A fel gallech chi ddychmygu, roedd y sylwebaeth yn un eithaf negyddol!

Dw i'n ddigon cyfarwydd efo'r rhesymau tu ôl i'r negyddoldeb hynny, a dw i ddim yn mynd i feirniadu neu hyd yn oed anghytuno efo fo (mae gynnoch chi bwynt, wir). Ond mae wedi gwneud i mi feddwl am hunaniaeth genedlaethol, a sut mae'n ffitio efo fy nghefnogaeth o'r iaith Gymraeg.

Mae fy nheimladau tuag at Brydeindod wedi mynd trwy tipyn o newidiad dros y blynyddoedd. Fel plentyn mewn tref fach yn Ngogledd Lloegr lle mae pawb yn bobl lleol, do'n i ddim yn wirioneddol ymwybodol hyd yn oed o ardaloedd eraill yn Lloegr, heb sôn am unrhyw le arall. Hyd yn oed nes ymlaen mewn ysgol rhyngwladol iawn ym Manceinion, ro'n i'n dal yn euog o feddwl am Brydain fel "Lloegr efo bits bach yn hongian oddi arni".

Wedyn pan o'n i'n mynd allan efo merch o Ffrainc, ac yn dysgu Ffrangeg, ces i weld y byd 'anglo-saxon' (fel maen nhw'n galw fo) o berspectif tu-allan-tu-mewn am y tro cyntaf. Yna des i sylweddoli pa mor "ieithyddol ymerodraethol"[0] dan ni yn y gwledydd Saesneg-eu-hiaith yn gallu bod, a'r safonau dwbl sy'n bodoli pan mae'n dod i "pwy ddylai ddysgu iaith pwy". Er mwyn ymbellhau oddi wrth yr holl gysylltiadau annymunol, dechreuais meddwl amdanaf fy hun fel Prydeinwr yn hytrach na Sais - fel ffordd o ddweud "gwelwch - dw i'n Sais progresif, modern â meddwl agored, sy'n gwybod y gwahaniaeth rhwng Lloegr a Phrydain". Hurt, efallai, ond dyna ni.

Erbyn hyn dw i wedi dod dros yr holl 'embaras' gwirion o berthyn i gymuned ieithyddol ymerodraethol, ond dw i'n dal yn stryglo i fod yn browd o fy Seisnictod. Efallai oherwydd yr absennoldeb o deimlad genedlaethol yng nghymdeithas gyfoes Lloegr[1], neu'r ofn y bydd pobl yn ei gamddehongli fel cenedlaetholdeb Prydeinig (sy'n anffodus yn gyfystyr â hiliaeth y dyddiau 'ma). Mae'n bosib mai dyna rhan o fy atyniad at Gymru, dwn i ddim. Dw i'n meddwl 'mod i'n teimlo mwy o gysylltiad efo'r Gymraeg achos bod hi'n un o ieithoedd "fy ngwlad" (h.y. Prydain). Ond ta beth, mae'n dal yn well gen i ddod o Brydain na Lloegr.

Nawr, dw i'n "wleidyddol agnostig" am Gymru, heblaw pan mae'n dod i faterion iaith. Mae ieithoedd yn beth pwysig iawn yn fy mywyd, dw i'n credu'n gryf yn yr hawl sydd gan bob iaith i fodoli - ac yn fwy na hynny mae gen i 'stake' personol yn nyfodol y Gymraeg achos dw i'n siaradwr ohoni. Felly, mae gwleidyddiaeth ieithyddol Cymru o ddiddordeb mawr i mi. Ond dw i erioed wedi bod yn arbennig o wleidyddol yn gyffredinol, does gen i ddim gwaed Cymreig, a dydw i ddim hyd yn oed yn byw yng Nghymru (eto, o leiaf), felly mae'n anodd i mi fynegi barn am y gweddill. Ond pan dw i'n gweld rhai pobl yn honni nad yw hunanieth Prydeinig yn cyd-fynd â chefnogaeth o'r iaith Gymraeg, mae rhaid i mi ofyn sut maen nhw'n gweld person fel fi yn ffitio mewn i'r safbwynt yna!

Yn bersonol wrth gwrs, does gen i ddim ots. Dw i erioed wedi bod efo teimladau o 'berthyn' i unrhyw wlad[2], felly dw i'n ddigon hapus i gario ymlaen heb hunaniaeth genedlaethol. Ond bwddyn i'n licio cael clywed beth mae pobl yn feddwl.

[0] Gobeithio bod hynny'n gwneud synnwyr. Dw i'n croesawu adborth ar fy ymdrechion i sgwennu Cymraeg ffansi.
[1] Na, dydi baneri pel-droed ddim yn cyfrif.
[2] Wedi dweud hynny, dw i yn falch o fod yn Westmerian (rhywun o'r hen sir o Westmorland).