03/08/2012

Hanner Cant: teimlo'n rhan o hanes

Ces i glywed am gig Hanner Cant am y tro cyntaf ar Twitter, ychydig ar ôl iddyn nhw ddechrau cyhoeddi enwau, trwy aildrydariadau.  I ddechrau, do'n i ddim yn talu gormod o sylw - dw i'n gweld eitha lot o drydar am gigs a gwyliau bach cerddorol Cymraeg, ac yn anffodus, dw i'n byw yn ddigon pell i ffwrdd bod hi ddim yn werth y daith fel arfer, heblaw bod nhw'n cyd-ddigwydd efo rhywbeth arall o ddiddordeb yn yr ardal.  Ond rhywbryd yn y Gaeaf, des i sylweddoli nad gŵyl arferol oedd hyn, ar ôl darllen bod hi'n bosib gweld 50 o fandiau am £20 (cyn hynny o'n i wedi methu rhywsut i wneud y cysylltiad rhwng yr enw a'r nifer o artistiaid).  Allan o'r cwestiwn, felly, i mi golli cyfle mor unigryw i weld cymaint o gerddorion ar yr un pryd!

A wnaeth y cerddorion hynny ddim siomi: nid jest y rhai o'n i'n methu aros i'w gweld (fel Mattoidz, un o'm huchafbwyntiau personol), ond hefyd rhai do'n i ddim wedi gwerthfawrogi ar y radio, wnaeth droi allan i fod yn wych yn fyw (am Geraint Lovgreen yn enwedig dw i'n meddwl yma).  Ac wrth gwrs y darganfyddiadau newydd - erbyn hyn dw i wedi prynu albwms gan 9Bach, Twmffat a Maffia Mr Huws, artistiaid anghyfarwydd i mi dim ond ychydig wythnosau yn ôl.

Ond roedd y profiad yn fwy na hynny.  Cyn cyrraedd, do'n i ddim cweit wedi dallt faint mor fawr, cyffrous a hanesyddol oedd o.  Roedd maint yr adeilad a'r llwyfannau yn un peth (o'n i'n disgwyl rhywbeth tebyg i gigs bach Cymraeg arferol - am sioc!).  Ac roedd yn ysbrydoliaeth gweld faint o dalent sydd allan yna yn y sîn.  Ond beth darodd fi y mwyaf oedd faint o rôl hanfodol mae Cymdeithas, ac ymgyrchu yn gyffredinol, wedi chwarae yn hanes cerddoriaeth gyfoes Cymru.  O'n i'n ymwybodol o hynny i ryw raddau, dw i'n meddwl, ond a bod yn onest do'n i ddim wirioneddol wedi meddwl amdani gormod: i ymgyrchwyr mae'r diolch bod sîn mor fywiog yn bodoli yn y lle cyntaf!  Ac ym Mhafiliwn Bont, yn gwrando ar Dafydd Iwan yn sôn am ei brotestio bron i hanner canrif yn ôl, ac yn canu ymlaen efo'i ganeuon adnabyddus, ces i'r teimlad 'mod i bellach yn rhan o'r hanes hynny.

Felly, do, mi oedd Hanner Cant yn fwy na gig: es i lawr i Bont jest yn ffan o gerddoriaeth Gymraeg, ond des i 'nôl yn aelod o Gymdeithas, ac yn awyddus i helpu sicrhau bydd pethau fel hyn yn gallu digwydd am flynyddoedd i ddod.