21/09/2012

Trydar trydariadau ar Twitter

Y peth mwyaf[0] sydd wedi taro fi heddiw am y busnes Twitter 'ma yw'r anghysondeb a'r diffyg safoni sydd i'w gweld yn y cyfieithiadau.  Dw i ddim yn beio'r pobl sydd wedi bod yn cyfrannu - dim o gwbl, mae pawb wedi gwneud job gwych hyd yma.  Mae jest yn beth naturiol efo system torfol fel hyn - y ffordd mae'n gweithio yn golygu bod pobl yn dod ar draws termau ar hap, heb weld y cyfieithiadau sy'n bodoli eisoes ar gyfer termau tebyg.

Nawr hyd yma dim ond y glosari sydd ar gael i'w gyfieithu, felly dydi o ddim wedi bod yn broblem mawr eto.  Ond gan bod y prif gysyniadau yn mynd i droi fyny yn aml iawn, dan ni'n mynd i ddiweddu fyny efo llanast pan fydd y brawddegau hirach yn ymddangos, os dan ni ddim yn ofalus.  Felly, cyn gynted bydd 'na fan trafod canolog, y peth cyntaf dylen ni wneud yw penderfynu ar gyfieithiadau swyddogol o'r brif dermau, yn ogystal a rhai pethau eraill (e.e., a ddylid cyfieithu acronyms neu beidio?).

A'r ail beth yw, mae rhaid edrych ar y cyd-destun, a'r tab "More information", er mwyn bod yn sicr pa ran ymadrodd (enw, berf ayyb) da chi'n cyfieithu.  A pheidiwch trystio'r diffiniadau ar waelod y dudalen, chwaith - maen nhw'n dweud clwyddau. [1]

Iawn, nawr 'mod i wedi dweud hynny, dw i eisiau mynegi barn personol ar gwpl o bethau:

  • Does dim angen cyfieithu enwau priod.  "Twitter" ydi enw'r wefan mewn unrhyw iaith.
  • Mae "trydar" yn iawn fel berf (dw i'n trydar), ac fel term cyffredinol am y cyfathrebu sy'n mynd ymlaen ar Twitter (dw i wedi darllen yr holl drydar amdani), ond mae'n well gen i'r term "trydiariad" am neges unigol.
  • Mae'n well cadw'r acronyms adnabyddus, fel RT a DM, fel y maen nhw.  Mae "aildrydar" a "neges breifat" yn gyfieithiadau gwych am y termau llawn, ond dw i erioed wedi gweld neb yn dweud "AD" neu "NB".



[0] Heblaw am y ffaith bod y Ganolfan Gyfieithu yn crap, hynny yw.

[1] Bod yn onest, mae'r tab "More info" yn rong weithiau hefyd - e.e. "Search: Noun. A box on your Twitter homepage..." - fyddech chi ddim yn galw'r bocs ei hun yn "Search", na fyddech?  Mae'r gair "Search" wrth y bocs yn ferf, sy'n dweud wrth y defnyddiwr beth mae'r bocs yn ei wneud.

1 comment:

  1. Y cam gyntaf o nifer yw creu'r rhestr termau a dydw i ddim yn disgwyl bydd y rhestr yn gyflawn nag yn gyfan gwbl bendant nes bydd trafodaethau wedi bod mewn camau nesa'r broses. Dyma'r termau (yn Saesneg) mae pob defnyddiwr Twitter yn gyfarwydd â ac felly dwi'n canmol bod y cam gyntaf mor agored. Does dim drwg mewn caniatáu i bobl awgrymu termau eu hunain ac mae'n ychwanegu i'r dewis ac yn gwneud i eraill ystyried yn fwy gofalus. Cynnigais i ambell air newydd i ehangu'r dewis - rhai, 'Trydarwraig', er enghraifft, heb unrhyw fwriad ei gynnwys yn y termau.

    Dydy'r broses 'ma ddim yn newydd i Twitter felly fedra'i ddim dychmygu mae wrth ddamwain maen nhw'n dal heb greu fforwm trafodaeth ar gyfer unrhyw un o'r pymtheg iaith sydd wedi cael ei mabwysiadu'r wythnos yma. Cymharol fach, wrth reswm, ydy'r nifer sy'n cyfrannu yn y Gymraeg, ond gallaf ddychmygu byddai agor fforwm i bawb mor gynnar yn y broses yn creu nifer o drafodaethau hir, cymhleth ac efallai annifyr mewn rhai cymunedau mwy. Efallai

    Yn ôl y gwefan, mae algorithmau mewn lle sy'n mynd i adnabod pa rai o'r holl gyfranwyr sydd yn gwneud cyfraniadau o werth a bydd hyn, dwi'n disgwyl, yn arwain at gydweithio mwy ffurfiol yn y camau nesaf. Dim gymaint o bobl bydd gyda'r amser a'r awydd i barhau drwy'r holl broses, yn enwedig os ydy algorithmau Twitter yn rhoi amcan isel ar werth eu cyfraniad, felly dwi'n ffyddlon bydd gwaith da yn cael ei wneud yn y pen draw gan griw gyda'r gallu yn y Gymraeg i gyfieithu iaith fwyaf cymhleth a strwythuredig y wefan, megis telerau, amodau, a pholisïau.

    ReplyDelete