Ysgrifennwyd y nonsens canlynol ar y 30ain o Fehefin. Dw i newydd ddod rownd i'w gyhoeddi fo!
Yn y rhai diwrnodau ers y cyhoeddiad bod "dysgwraig" wedi cael ei henwebu'n Archdderwydd, dw i wedi bod yn meddwl am ddiffiniad union y gair "dysgwr".
Un peth sydd wastad wedi taro fi yw'r ffordd bod y gair fel arfer yn golygu "dysgwr o'r iaith Gymraeg", heb angen geiriau eraill. Hyd y gwn i, does neb yn Ffrainc (er enghraifft) yn sôn am 'apprenants' yn yr un modd, heblaw os ydi'r cyd-destun eisoes wedi sefydlu mai iaith yw'r pwnc dan drafodaeth. Mae hyd yn oed teitl cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyfieithu fel "Welsh Learner of the Year", er bod y cyd-destun yn ddigon amlwg yno. Ond yn y Gymraeg, heb unrhyw gyd-destun penodol, cymerir yr ystyr ieithyddol yn ganiataol. (Mae fel yr arfer o gyfeirio at y Gymraeg fel "yr iaith", peth sy'n taro'n od wedi'i gyfieithu'n uniongyrchol!)
Nawr dw i ddim yn honni bod hyn yn sylweddoliad chwyldroadol - mae pawb sy'n siarad mwy nag un iaith yn gwybod nad yw geiriau ieithoedd gwahanol yn mapio'n un-i-un ar eu gilydd. Ond mae'n ddiddorol iawn i mi bod dysgwyr i'w gweld yn ddigon pwysig, niferus a blaengar yn y byd Cymraeg bod y defnydd hwn wedi dod mor gyffredin.
Yr ail beth i ystyried yw, beth yn union ydi ystyr y gair ei hun? "Wel, rhywun sy'n dysgu Cymraeg" meddwch chi'n ddigon rhesymol. Ond lle mae tynnu'r llinell rhwng dysgwr a siaradwr? Ydi rhywun a ddechreuodd fel oedolyn yn 'ddysgwr' am oes? Hefyd, sut mae diffinio 'fel oedolyn'? Ydach chi'n 'ddysgwr' os wnaethoch chi ddechrau yn 16 oed? Beth am 12? Neu 8?
I osgoi'r cymhlethdodau hynny, mae rhai pobl yn hyrwyddo'r term 'siaradwyr ail iaith' yn hytrach na 'dysgwyr'. Ond mae problemau yno hefyd: sut mae diffinio 'ail'? Beth am, er enghraifft, rhywun dwyieithog-ers-eu-plentyndod-cynnar Saesneg/Ffrangeg sy'n dysgu Cymraeg fel oedolyn? Beth am bobl fel fi sydd wedi dysgu dwy iaith fel oedolyn - ai 'fy nhrydedd iaith' yw'r Gymraeg, neu oes gen i 'ddwy ail iaith' neu beth? Ydi o'n mynd mewn trefn cronolegol, neu oes modd i'ch ail a'ch trydedd ieithoedd newid lle, yn dilyn newidiadau yn eich gallu i'w siarad nhw?
Ffordd boblogaidd arall o gyfeirio at ddysgwr profiadol yw dweud bod nhw "wedi dysgu", ond mae ofn arna' i ei defnyddio - dw i'n sicr ddim eisiau rhoi'r argraff 'mod i'n ystyried fy Nghymraeg yn "waith gorffenedig"! Mae dysgu yn broses barhaol, ac wedi'r cwbl, dydw i ddim wedi "gorffen" dysgu Saesneg chwaith, nac ydw?
Ta beth - does gen i ddim ateb i'r cwestiynau uchod, heblaw i ddweud bod 'na ddim angen ffeindio term addas i'n disgrifio ni, y dysgwyr-sy-wedi-dod-yn-siaradwyr, oherwydd mai siaradwyr ydyn ni. A dylai hynny fod yn ddigon mewn unrhyw gymuned ieithyddol - yn enwedig un "lleiafrifol".
Cwpl o ddiwrnodau ar ôl sgwennu'r uchod, wnes i ddal lan ar fy Google Reader a gweld sylwadau Carl, a dw i'n hoff iawn o'i syniad o ddefnyddio'r gair 'mabwysiadwr'. Felly mae gen i un famiaith a dwy iaith fabwysiedig. Gwych! :)