Wel dyma fi 'nôl yn fy stafell, ar ôl diwrnod llawn!
Y cynllun oedd codi'n eitha cynnar a gadael erbyn 11, ond oherwydd Insomnia Steddfod, o'n i'n methu cysgu tan bron i 6 y bore - felly ges i lie-in hanesyddol, a gadael tua 1 o'r gloch, jyst mewn pryd i wrando ar y bandiau pres...
Nawr mae rhaid i mi gyfaddef, dw i wrth fy modd efo bandiau pres. Dw i'n gwybod nad ydi pawb yn cytuno - ella mai dyna pam bod nhw ymlaen reit ar ddechrau'r wythnos? - ond dw i'n joio nhw'n fwy nag unrhywbeth arall sydd i'w weld yn y Pafiliwn. Ta beth, pwynt ydi, mae wedi dod yn draddodiad bach personol i fi erbyn hyn: dreifio lawr i'r Eisteddfod yn gwrando ar y bandiau pres ar y radio. (Wedyn mynd mewn a gweld nhw go iawn - ond rhaid aros tan fory am hynna!)
Yn y diwedd, ar ôl taith pedair awr a hanner - a chwpl o albwms ar ôl i'r bandiau pres orffen - cyrrhaeddais y tŷ yn Llanilltud Fawr dw i'n rhannu efo pedwar SSiWer arall. Ac am dŷ! O'n i'n arfer byw mewn stiwdio fflat oedd yn llai na'r prif ystafell wely yn y tŷ ma - wir yr!
Ar ôl i mi ddadbacio'r car (yn yr ysbeidiau prin rhwng cawodydd o law), aethon ni gyd allan am bryd o fwyd Eidaleg, i fwyty'r Vesuvio. Cawson ni groeso cynnes iawn, gwasanaeth Cymraeg cyfeillgar, a bwyd blasus dros ben. I'w awgrymu.
Wedyn, syrpreis gorau'r dydd: mae'n troi allan bod Clwb Rygbi Llanilltud Fawr, lle cynhelir gigs Cymdeithas yr Iaith, dim ond pum munud i ffwrdd (i gerdded!) o ble dan ni'n aros. Felly diweddais y noson yn cymryd rhan mewn cwis (wnaethon ni golli'n drwm, fel byddai cwrs 1 SSiW yn dweud), a gwrando ar Lawrence yn chwarae ei gerddoriaeth unigryw - gan gynnwys, fel mae'n digwydd, yr un gân wnaeth ddeffro pawb ym maes pebyll Hanner Cant am wyth o'r gloch yn y bore.
Ac os nad ydach chi'n gwybod beth dw i'n sôn amdano yn fan'na - plîs, peidiwch ag ymchwilio :-)
Showing posts with label cerddoriaeth. Show all posts
Showing posts with label cerddoriaeth. Show all posts
05/08/2012
Diwrnod cyntaf Eisteddfod 2012
Tagiau:
cerddoriaeth,
Cymdeithas yr Iaith,
Hanner Cant,
SSiW,
Steddfod
03/08/2012
Hanner Cant: teimlo'n rhan o hanes
Ces i glywed am gig Hanner Cant am y tro cyntaf ar Twitter, ychydig ar ôl iddyn nhw ddechrau cyhoeddi enwau, trwy aildrydariadau. I ddechrau, do'n i ddim yn talu gormod o sylw - dw i'n gweld eitha lot o drydar am gigs a gwyliau bach cerddorol Cymraeg, ac yn anffodus, dw i'n byw yn ddigon pell i ffwrdd bod hi ddim yn werth y daith fel arfer, heblaw bod nhw'n cyd-ddigwydd efo rhywbeth arall o ddiddordeb yn yr ardal. Ond rhywbryd yn y Gaeaf, des i sylweddoli nad gŵyl arferol oedd hyn, ar ôl darllen bod hi'n bosib gweld 50 o fandiau am £20 (cyn hynny o'n i wedi methu rhywsut i wneud y cysylltiad rhwng yr enw a'r nifer o artistiaid). Allan o'r cwestiwn, felly, i mi golli cyfle mor unigryw i weld cymaint o gerddorion ar yr un pryd!
A wnaeth y cerddorion hynny ddim siomi: nid jest y rhai o'n i'n methu aros i'w gweld (fel Mattoidz, un o'm huchafbwyntiau personol), ond hefyd rhai do'n i ddim wedi gwerthfawrogi ar y radio, wnaeth droi allan i fod yn wych yn fyw (am Geraint Lovgreen yn enwedig dw i'n meddwl yma). Ac wrth gwrs y darganfyddiadau newydd - erbyn hyn dw i wedi prynu albwms gan 9Bach, Twmffat a Maffia Mr Huws, artistiaid anghyfarwydd i mi dim ond ychydig wythnosau yn ôl.
Ond roedd y profiad yn fwy na hynny. Cyn cyrraedd, do'n i ddim cweit wedi dallt faint mor fawr, cyffrous a hanesyddol oedd o. Roedd maint yr adeilad a'r llwyfannau yn un peth (o'n i'n disgwyl rhywbeth tebyg i gigs bach Cymraeg arferol - am sioc!). Ac roedd yn ysbrydoliaeth gweld faint o dalent sydd allan yna yn y sîn. Ond beth darodd fi y mwyaf oedd faint o rôl hanfodol mae Cymdeithas, ac ymgyrchu yn gyffredinol, wedi chwarae yn hanes cerddoriaeth gyfoes Cymru. O'n i'n ymwybodol o hynny i ryw raddau, dw i'n meddwl, ond a bod yn onest do'n i ddim wirioneddol wedi meddwl amdani gormod: i ymgyrchwyr mae'r diolch bod sîn mor fywiog yn bodoli yn y lle cyntaf! Ac ym Mhafiliwn Bont, yn gwrando ar Dafydd Iwan yn sôn am ei brotestio bron i hanner canrif yn ôl, ac yn canu ymlaen efo'i ganeuon adnabyddus, ces i'r teimlad 'mod i bellach yn rhan o'r hanes hynny.
Felly, do, mi oedd Hanner Cant yn fwy na gig: es i lawr i Bont jest yn ffan o gerddoriaeth Gymraeg, ond des i 'nôl yn aelod o Gymdeithas, ac yn awyddus i helpu sicrhau bydd pethau fel hyn yn gallu digwydd am flynyddoedd i ddod.

Hanner Cant
Subscribe to:
Posts (Atom)